Croeso i Ddeintyddfa Llandeilo

Agorodd Deintyddfa Llandeilo ei drysau yn Chwefror 2014, Yr ydym wedi cyflawni gwaith adnewyddu helaeth I’r deintyddfa gynt yn cael ei adnabod fel Deintyddfeydd Dyffryn Tywi . Rydym wedi cyfarparu ein syrjerïau gyda’r offer a’r dechnoleg mwyaf fodern er mwyn darparu’r driniaeth orau posibl i’n cleifion. Rydym wedi creu ystafell aros gynnes a chroesawgar gyda thê a choffi ar gael yn ddi-dâl pan gyrhaeddant. Mae’r ddeintyddfa’n cynnig mynediad i bobl anabl, gyda syrjeri wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod ac yn cynnwys ramp yn y fynedfa.

Request An Appointment Contact Us

Amdanom ni

Yn Neintyddfa Llandeilo, rydym yn ymrwymo i gyflawni holl agweddau gofal deintyddol ataliol. Dyma ble mae ein tîm yn cydweithio’n agos gyda chi i osgoi, yn y rhan fwyaf o achosion, yr angen am driniaethau ataladwy megis llenwadau. Cyflawnir hyn trwy ymweliadau rheolaidd â’n hylenydd a/neu ein therapydd deintyddol a cheisir taclo achos y problemau fel y gellwch, os dilynwch y cynghorion, osgoi triniaeth bellach.

Fodd bynnag, os bydd angen triniaeth arnoch, mae’r ddeintyddfa wedi buddsoddi’n helaeth yn y cyfarpar deintyddol mwyaf modern i ddarparu’r triniaethau deintyddol diweddaraf o lenwadau gwyn esthetaidd (yn y dannedd blaen ac ôl) hyd at y defnydd o’r ffeiliau nicel-titaniwm diweddaraf i drin sianelau’r gwreiddyn yn ogystal â’r offer pelydr x diweddaraf.

Rydym hefyd yn medru cwblhau nifer o driniaethau cosmetig dewisol yn y ddeintyddfa gan gynnwys:

  • Gwynnu dannedd
  • Sythwyr orthodontig anweladwy
  • Ailosod hen lenwadau metel â llenwadau gwynion
  • Ailosod hen lenwadau metel â mewnosodiadau seramig (tra esthetaidd)
  • Argaenau seramig / coronau seramig
  • Pontydd ( yn aml yn medru cymryd lle dannedd gosod symudadwy)
  • Mewnblannu pontydd dargadwedig / dannedd gosod (mae gennym fewnblanolegydd tra phrofiadol sy’n cyflawni’r driniaeth yn ein deintyddfa).

Pam ymuno â Chynllun Deintyddol?

Yn Neintyddfa Pont Steffan, credwn fod gofal ataliol yn well na thriniaeth! Fel claf a werthfawrogir gennym yn ein deintyddfa, bydd ein tîm yn canolbwyntio ar eich helpu chi i atal pydredd dannedd a chlefyd gwm. Bydd cyfuniad o ymweliadau rheolaidd ag un o’n Deintyddion a’n Hylenydd Deintyddol yn eich arfogi â’r holl wybodaeth a sgiliau y byddwch eu hangen i gadw eich ceg yn iach.

Mae Cynlluniau Deintyddol Pont Steffan yn cynnig y gofal deintyddol diweddaraf ichi am ffi fisol isel.

Pam ymuno â Chynllun Deintyddol?

  • Ymweliadau hylendid rheolaidd ar gyfer anadl ffres a gwên ddisglair
  • Llai o debygolrwydd y bydd angen triniaeth ddeintyddol ar frys
  • Triniaeth brydlon
  • Y technegau diweddaraf ar gyfer eich triniaeth
  • Dewis ehangach o driniaethau
  • Gofal a sylw personol
  • Ymestyn cost eich gofal deintyddol hanfodol dros gyfnod o amser
  • Yswiriant damwain ac argyfwng deintyddol byd-eang
  • Tawelwch meddwl

Ymunwch heddiw a dechreuwch fwynhau’r manteision

Yn dilyn eich archwiliad fel claf newydd, bydd un o’n deintyddion yn eich cynghori ynghylch pa gynllun fydd yn addas i chi. Yna’n syml, cwblhewch y ffurflen gais a’i rhoi i’n derbynyddes neu postiwch hi i’r cyfeiriad sydd ar gefn y ffurflen.

Y Cynllun Sylfaenol

Mae’r cynllun hwn yn addas i gleifion sydd angen ychydig neu ddim gwaith deintyddol ar y pryd ac sydd â gymiau a dannedd iach.

Y Cynllun Gofal Ataliol

Mae’r cynllun hwn yn addas ar gyfer y rhelyw o’n cleifion sy’n oedolion, oni bai iddynt gael cyngor fel arall gan un o’n deintyddion.

Y Cynllun Perio

Mae’r cynllun hwn wedi ei lunio’n benodol ar gyfer cleifion y canfuwyd fod clefyd periodontol arnynt.

Cwrdd â’r Tîm

Rydym yn ymroddedig i roi’r gorau i chi gyda’r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid!

Adam Llewellyn

Adam Llewellyn

Tarddu o-bont ar Ogwr, enillodd Dr Adam Llewellyn ei radd Baglor Llawfeddygaeth Ddeintyddol (Anrh) o Brifysgol Caerdydd.

Aaron Chieng

Originating from Malaysia, Aaron has just recently gained his Bachelor of Dental Surgery (Hons) degree from Cardiff University.

Tom Bysouth

Tom Bysouth

Fe’i ganed yn Abertawe a’i fagu a’i addysgu yn Rutland Tom ennill ei Baglor Llawfeddygaeth Ddeintyddol (Anrh) o Brifysgol Caerdydd yn 2009.

476

Smiles Saved

4129

Happy Patients

Request an appointment with us today!

Request An Appointment Contact Us

What our patients say

Get In Touch

Find us on the map, call us or drop us an email


Llandeilo Dental Practice
18 Carmarthen Street
Llandeilo
Carmarthenshire | Sir Gâr
SA19 6AE

01558 823658
[email protected]

Monday 9:00am – 6:00pm
Tuesday 9:00am – 5:00pm
Wednesday 8:00am – 5:00pm
Thursday 8:30am – 4:00pm
Friday 8:30am – 3:00pm
Saturday Closed
Sunday Closed
Visa Mastercard America Express Apple Pay Cheque Cash

Additional Infomation

Patient Information Leaflet Annual Report Complaints Procedure Privacy Policy

British Dental Association General Dental Council Hiw Hywel Llais Dementia Friends Enlighten Living Wage