Amdanom ni

Yn Neintyddfa Llandeilo, rydym yn ymrwymo i gyflawni holl agweddau gofal deintyddol ataliol. Dyma ble mae ein tîm yn cydweithio’n agos gyda chi i osgoi, yn y rhan fwyaf o achosion, yr angen am driniaethau ataladwy megis llenwadau. Cyflawnir hyn trwy ymweliadau rheolaidd â’n hylenydd a/neu ein therapydd deintyddol a cheisir taclo achos y problemau fel y gellwch, os dilynwch y cynghorion, osgoi triniaeth bellach.

Fodd bynnag, os bydd angen triniaeth arnoch, mae’r ddeintyddfa wedi buddsoddi’n helaeth yn y cyfarpar deintyddol mwyaf modern i ddarparu’r triniaethau deintyddol diweddaraf o lenwadau gwyn esthetaidd (yn y dannedd blaen ac ôl) hyd at y defnydd o’r ffeiliau nicel-titaniwm diweddaraf i drin sianelau’r gwreiddyn yn ogystal â’r offer pelydr x diweddaraf.

Rydym hefyd yn medru cwblhau nifer o driniaethau cosmetig dewisol yn y ddeintyddfa gan gynnwys:

  • Gwynnu dannedd
  • Sythwyr orthodontig anweladwy
  • Ailosod hen lenwadau metel â llenwadau gwynion
  • Ailosod hen lenwadau metel â mewnosodiadau seramig (tra esthetaidd)
  • Argaenau seramig / coronau seramig
  • Pontydd ( yn aml yn medru cymryd lle dannedd gosod symudadwy)
  • Mewnblannu pontydd dargadwedig / dannedd gosod (mae gennym fewnblanolegydd tra phrofiadol sy’n cyflawni’r driniaeth yn ein deintyddfa).